Contractwyr Trydanol ers 1963
Croeso i Jones & Whitehead Cyf.
Sefydlwyd y cwmni ym 1963 fel partneriaeth rhwng Oscar Bowen Jones a Frederick Whitehead. Heddiw mae'r cwmni yn cael ei redeg gan Iwan Jones, mab Oscar, a Marc Hughes.

Ein gwasanaethau
O'r dyluniad cyntaf i'r prawf olaf.
Contractwr Trydanol Swyddogol Eisteddfod Genedlaethol Cymru ac Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.
- Dylunio a gosod gwasanaethau trydanol: pŵer, goleuo, goleuadau argyfwng, ceblau data a systemau CCTV.
- Pob agwedd ar gontractio trydanol, o osodiadau diwydiannol mawr i ailweirio tai, addasiadau, profi a phrofi PAT.
- Dylunio a gosod dosbarthiad trydan dros dro: pŵer, goleuo a goleuadau argyfwng.
- Digwyddiadau o bob maint, o gyngherddau i wyliau mawr a hyd at 1000 o gysylltiadau carafanau teithiol.
Rydym yn gweithio ar draws y rhan fwyaf o Gymru.
Rydym yn hapus i drafod unrhyw brosiect, yn agos neu'n bell. Mae croeso i chi gysylltu â ni yn Gymraeg neu yn Saesneg.







